Annwyl Ymgeisydd,
Diolch am eich diddordeb yn y rôl o Gyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae hyn yn rôl gritigol sydd yn gyfrifol am sicrhau darpariaeth systemau eang llwyddiannus a'r gwelliant parhaus o gynlluniau ein pobl i symud ein gweledigaeth o sefydliad ansawdd uchel ar draws y Bwrdd Iechyd. Bydd y rôl hon yn hybu ein gwerthoedd, cenhadaeth a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gyda phobl a'r cymunedau rydym yn gweini.
Trwy'r arweinyddiaeth o adnoddau dynol a swyddogaethau datblygu sefydliad, byddwch yn arwain y datblygiad o ddatrysiadau arloesol sefydliadol a gwasanaeth ac mewn ffordd o weithio i gefnogi'r nodau strategol y bwrdd iechyd. Y ddarpariaeth o'n diwylliant perfformiad uchel a'r ddarpariaeth newid sylweddol yn y gwasanaeth gweithredol yn allweddol. Rydym yn edrych am arweinwr syn gallu gwneud y gwneud a dweud y dweud ac sydd yn gallu dangos yr egni, dichell a hyder o sgiliau i gynghori newid trwy ein pobl yn yr amgylchedd mwyaf heriol y mae'r bwrdd iechyd wedi dod o hyd iddo mewn degawdau.
Mae'r rôl hon yn dod ar amser o newidiadau mawr yn BIPBA ac ar draws ein cymunedau. Rydym ni gyd yn teimlo'r effeithiau ac yr ôl-gryniadau o Covid ac mae'r argyfwng cost o fyw yn cael ei deimlo ym mhob teulu, cartref, busnes a gwasanaeth cyhoeddus. Mae gennym raglen actif o foderneiddio a gwelliant ar y gweill a enwir Newid ar gyfer y Dyfodol, sydd yn gweithredu gwersi rydym wedi dysgu o COVID, y buddsoddi miloedd mewn moderneiddio gwasanaethau a'u siapio i ddiwallu pwysau heddiw a gofynion y dyfodol, yn gwella ansawdd gofal a chanlyniadau a chanolbwyntio ar les staff ac ystwythder. Ar yr un pryd, rydym wedi arwain ymgysylltiad 6 mis o gwmpas sgwrs fawr a sut byddem yn creu sefydliad ansawdd uchel a'i darparu a'i diweddu yn ein gweledigaeth ar gyfer y sefydliad yn mynd yn ei blaen. Bydd eich rôl yn gwneud i'r ymdrech cymhleth hwn yn ddiriaethol, darpariaethol ac yn wir trwy ein pobl.
Rydw i'n credu bod yn hanfodol bod gennym arweinyddiaeth broffesiynol, sgiliau ac adnoddau i gynnwys pobl yn y siapio a deall cynlluniau, ymgysylltu â nhw trwy drawsnewidiadau, hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn adrodd yn ôl a bod yn gyfrifol am ein gweithredoedd. Mae'r tîm gweithreddol a minnau wedi ymrwymo i'n strategaeth, tîm a buddsoddiad newydd. Byddwch yn gweithio gyda thîm gweithredol galluog iawn sydd yn gweithio'n dda gyda'i gilydd ac yn gwbl ymroddedig i'r weledigaeth a sut rydym yn ei chreu.
Mae'r person rydw i’n edrych amdano yw rhywun sydd â phrofiad profedig o weithio ar lefel strategol a gweithredol mewn adnoddau dynol a datblygu sefydliadol a chyfrannu ar lefel uwch iawn, yn achos neu ar lefel Bwrdd mewn sefydliad mawr gymhleth, yn ddelfrydol o fewn y GIG ac ar draws holl systemau gofal iechyd. Y steil rydw i'n edrych amdano yw'r un sy'n canmol tîm a bwrdd gweithredol cryf, cynyddol a bwrdd ond sy'n gallu dod â gyrriant, egni, brwdfrydedd a chraffter gwleidyddol i rôl gyffrous ynghyd â sgiliau cysyniadol a dadansoddol cryf i ddarparu ein hagenda heriol. Dydyn ni ddim yn edrych am rywun sydd yn ddamcaniaethol, ond sydd ddim yn gallu darparu newid trwy bobl a'n dull i ddatblygiad sefydliadol yn ymarferol ac yn seiliedig ar weithred sy'n arwain at welliant mewn diwylliant.
Rydym yn credu yn gryf bod ymgysylltu a chyfathrebiadau ystyrlon yn alluogwyr hanfodol o ofal claf ansawdd uchel a chanlyniadau a llesiant staff a boddhad swydd. Os hoffech chi wneud gwahaniaeth, ble gall eich sgiliau blodeuo a'ch gwerthoedd ac ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus, y GIG a llesiant yn cyd-fynd â rhai ni wedyn gwnewch gais ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn eich cais.
Dr Richard H. Evans
Prif Weithredwr Dros Dro