Dyletswyddau a Chyfrifoldebau - Yn Berthnasol i bob Cyfarwyddwr
- Cyfrannu'n actif yn y dadleuon a thrafodaethau'r Bwrdd Iechyd Prifysgol gan gynnwys y ddarpariaeth o wybodaeth berthnasol ac amserol.
- Gweithio'n golegaidd gyda Chyfarwyddwyr eraill i fodelu ymddygiad yn gyson gyda'r Fframwaith Gwerthoedd ac Ymddygiadau i sicrhau aliniad o flaenoriaethau a darparu o amcanion perfformiad allweddol.
- Defnyddio gwybodaeth a phrofiad arbenigol i swyddogaeth ei hun a rheolaeth gofal iechyd i gynorthwyo cydweithwyr â'r Bwrdd i arwain ac ystyried penderfyniadau strategaethol a chyfeiriad ar gyfer newid trawsffurfiol.
- Arwain ar benderfyniadau torri costau fel llif gwaith Adferiad a Chynaliadwyedd.
- Cymryd rhan ar rota Cyfarwyddwr ar alwad. (Uchafswm Aur 1 mewn 8).
Prif Gyfrifoldebau
Bydd prif gyfrifoldebau penodol yw i:
Strategaeth a Pholisi
- Arwain a gyrru gwaith gyda'r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr Gweithredol a chydweithwyr perthnasol eraill i sicrhau datblygiad a darpariaeth lwyddiannus o strategaethau a pholisïau datblygu gweithlu a sefydliadol i gwrdd ag amcanion y Bwrdd ac i sicrhau’r trawsnewid parhaus o'r Bwrdd Iechyd Prifysgol a'u gwasanaethau.
- Ennill ymrwymiad ar draws yr holl system iechyd i'r ddarpariaeth a'r gweithrediad o strategaethau gweithlu sy'n cefnogi gwasanaethau clinigol modern, ac integredig. Bydd angen i'r rhain cael eu datblygu mewn partneriaeth ag undebau llafur, sefydliadau partner a grwpiau rhanddeiliad cleifion er mwyn torri lawr rhwystrau sefydliadol traddodiadol, gweithredol a phroffesiynol.
- Sicrhau bod systemau yn ei le i ddarparu practis cyflogaeth sy'n ddeinamig ac sy'n cwrdd â gofynion cyfreithiol a statudol.
- Datblygu fframwaith strategol sy'n sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â chyfraith Cyflogaeth, Deddfwriaeth Cydraddoldeb, cydraddoldeb yr Iaith Gymraeg a phractis orau.
Datblygu Sefydliadol
- Arwain y datblygiad a darpariaeth o Strategaeth Datblygu Sefydliadol i sicrhau bod trefniadau sefydliadol effeithiol a chapasiti yn ei le. Bod systemau, prosesau a strwythurau a rolau yn cael eu datblygu i sicrhau datblygiad parhaus o'r sefydliad a darpariaeth amcanion y Bwrdd. Bydd rhaid rhoi cydnabyddiaeth benodol i effaith o ofal iechyd a gwybodaeth technoleg sy'n newid.
- Gweithio gyda chydweithwyr gweithredol ac arweinwyr uwch, i ddatblygu capasiti a gallu arweinyddiaeth ar bob lefel o fewn y sefydliad i gefnogi perfformiad gwella a darparu gweithlu ymgysylltiol, ysgogol a hyblyg.
- Gyrru'r creu o ddiwylliant a gweithlu sefydliadol agor, amrywiol a chynhwysol sy'n adlewyrchu'r gwerthoedd ac amrywiaeth o gymuned leol y mae'r Bwrdd Iechyd yn gweini, yn enwedig yn gweithio gyda'r Cyfarwyddwr Nyrsio a Phrofiad Claf i ddarparu dull i amrywiaeth a chynhwysol.
- Sicrhau bod systemau ar waith i ddiogelu a chefnogi iechyd a llesiant bob aelod o staff a hybu gwelliant iechyd cynaliadwy.
- Gweithio gyda'r Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, yn defnyddio mecanweithiau cenedlaethol a lleol ar gyfer medryddu barn staff a hinsawdd sefydliadol i wella ansawdd bywyd gwaith felly bod bob aelod o staff yn teimlo'n wedi'u cefnogi, wedi'u cynnwys ac ymgysylltu, er mwyn sicrhau gwelliant cyfatebol o ansawdd gofal claf.
- Meithrin a gwreiddio diwylliant o fewn y Bwrdd Iechyd sy'n galluogi staff i wneud y mwyaf o'u cyfraniad at amcanion gwasanaeth trwy ddatblygiad personol a phroffesiynol priodol.
- Creu a rheoli tîm cryf effeithiol o reolwyr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol uwch, ymarferwyr a staff arbenigol trwy ysbrydoli gyda gweledigaeth o ddarparu arweinyddiaeth ysgogol a chyfeiriad clir.
- Fel cydran o Strategaeth Datblygu Sefydliadol, arwain y datblygiad o newid rheolaeth a chapasiti arweinyddiaeth. Herio practisau a diwylliannau o fewn y Bwrdd Iechyd Prifysgol er mwyn diwallu cynlluniau uchelgeisiol, newid gofal iechyd a thechnoleg gwybodaeth a gofynion strategaethau Materion Masnachol fel ffyniant ar gyfer pawb.
- Datblygu strategaethau arweinyddiaeth i gefnogi arweinyddiaeth glinigol ac ymgysylltu mewn penderfyniadau a galluogi gyrru ar gyfer newid a gwella gwasanaeth parhaus.
- Cyfrannu at ddatblygiad o sefydliad dysgu trwy ymyriadau Adnoddau Dynol addas sy'n annog tyfiant personol a sefydliad, adlewyrchiad ac arloesedd i adeiladu'r tîm i ddiwallu anghenion o gynlluniau strategol a gweithredol.
- Rhoi ar waith cynlluniau olyniaeth effeithiol o fewn y Bwrdd Iechyd Prifysgol.
Addysg, Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
- Yn cael cyfrifoldeb ac atebolrwydd ar gyfer addysg a hyfforddiant ar draws yr holl sefydliad i sicrhau'n addas bod staff wedi'u hyfforddi a chymhwysol addas ar gael i ddarparu gwasanaethau ansawdd uchel ar draws y Bwrdd Iechyd.
- Arwain ar y datblygiad o strategaeth addysg a hyfforddiant ar gyfer bob grwp staff, gyda chymorth proffesiynol o'r Cyfarwyddwyr Gweithredol.
- Cyfrifol am y ddarpariaeth o ddarpariaeth addysg a hyfforddiant y cytunwyd arno ar draws y sefydliad.
- Cyfrifol am y rheolaeth a datblygiad o wasanaeth llyfrgell y Bwrdd Iechyd i ddarparu amgylchedd dysgu gwych.
Y Gweithlu Cynllunio a Pherfformiad
- Arwain y datblygiad o gynllunio'r gweithlu yn unol â chynlluniau strategol a gweithredol i ddarparu'r Rhaglen Adferiad a Chynaliadwyedd. Sicrhau bod y gweithlu yn addas i'r diben ac yn cyflogi aelodau mewn rhifau addas, gyda'r sgiliau priodol i ddarparu gofal cleifion ac effeithiolrwydd sefydliadol.
- Hwyluso defnyddio staff yn ystwyth yn unol â chynlluniau'r Bwrdd Iechyd.
Y Gweithlu a Swyddogaeth Datblygu Sefydliadol
- Darparu arweinyddiaeth broffesiynol, gweledigaeth a chyfeiriad ar gyfer y Gweithlu a Swyddogaeth Datblygu Sefydliadol a darparu gwasanaethau ansawdd uchel, arloesol, parhaus a gweithredol i ddiwallu anghenion o adrannau clinigol ac anghlinigol ar draws y Bwrdd Iechyd Prifysgol gan gynnwys y rheolaeth o gofrestr staff banc a chyfleusterau llyfrgell.
- Darparu cymorth cyfrinachol, proffesiynol a chefnogi'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth a Phwyllgorau Bwrdd arall.
- Cefnogi'r Prif Weithredwr i ddatblygu'r Tîm Arweinyddiaeth Weithredol.
Gwella Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Claf
- Ymgysylltu'n effeithiol ag arweinwyr clinigol ac eraill i sicrhau bod y gweithlu cyflogedig y Bwrdd Iechyd Prifysgol a'r contractwyr proffesiynol yn gweithio mewn amgylchedd sy'n galluogi iddyn nhw i ddarparu gofal diogel, ansawdd uchel a derbyniol ar gyfer cleifion/ defnyddwyr gwasanaethau, o fewn yr adnoddau sydd ar gael.
- Cychwyn a hwyluso partneriaethau effeithiol gyda chyflogwyr eraill, i ddylanwadu agendau'r gweithlu, i gyfrannu i ddatblygu o gydweithio a darpariaeth integredig o strategaethau'r GIG lleol a chymunedol.
- Arwain y datblygiad o weithlu lleol sy'n galluogi newid mewn pwyslais o effaith yn yr ysbyty i ataliad effeithiol, ymyrraeth gynnar a chymorth hirdymor cymunedol a chymorth gofal sylfaenol.
Perfformiad
- Rheoli Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda swyddogaethau Recriwtio a Chyflogres Gwasanaethau a Rennir De Cymru i sicrhau bod eu darpariaeth gwasanaeth yn diwallu gofynion y Bwrdd Iechyd Prifysgol a gwerth am arian.
- Arwain a datblygu gweledigaeth, strategaeth a chynllun gweithredu ar gyfer cynyddu gallu a darparu gwelliannt go iawn, mewn perfformiad pobl a sefydliad.
- Sicrhau bod targedau perfformiad y gweithlu yn cael eu gosod a chyflawni a bod newid gweithlu, ailddylunio ac effeithiolrwydd yn cyfrannu tuag at gyflawniadau Bwrdd Iechyd Prifysgol a'u targedau ariannol.
- Datblygiad diwylliant ymwybyddiaeth cost ac effeithlonrwydd i alluogi'r ddarpariaeth o dargedau ariannol fel rhan o'r Rhaglen Adferiad a Chynaliadwyedd.
- Rheoli cyllid Gweithlu a Datblygu Sefydliadol penodol, yn sicrhau defnydd effeithlon a chreadigol o arian ac ar welliannau parhaus mewn effeithlonrwydd.
- Sicrhau bod systemau perfformiad gweithwyr yn cael eu gweithredu gydag amcanion blynyddol a chytunir gan staff, yn unol â'r amcanion Bwrdd Iechyd Prifysgol, a thargedau perfformiad
- Sicrhau o ddarpariaeth o Wasanaeth Llesiant a Iechyd Galwedigaethol sy'n cynnal gweithlu iach a lleihau absenoldebau staff a risgiau iechyd galwedigaethol.
- Sicrhau bod bob agwedd o'r swyddogaeth gweithlu trafodaethol gan gynnwys recriwtio a chyflogaeth parhaus o bob grwp staff yn cael ei darparu mewn modd amserol, effeithlon ac effeithiol i ddiwallu angen sefydliadol a gofynion deddfwriaethol.
- Datblygu a chynnal hyblygrwydd mewn capasiti staff trwy staff banc.
Datblygiad Strategol a Gweithio mewn Partneriaeth
- Datblygu a magu hinsawdd perthynas gweithiwr effeithiol sy'n cefnogi newid angenrheidiol a datblygiad o wasanaethau sydd yn hybu'r Bwrdd Iechyd Prifysgol fel cyflogwr enghreifftiol.
- Datblygu a chynnal perthnasoedd staff da, trwy weithio'n gydweithredol gydag aelod Bwrdd 'Undeb Llafur'.
- Sefydlu cydnabyddiaeth effeithiol a threfniadau partneriaeth gydag undebau llafur yn lleol ac yn genedlaethol i sicrhau bod cyfathrebiad effeithiol trylwyr ac ymgynghoriadau o ddiddordebau staff yn cael eu deall ac yn cael eu hadlewyrchu'n addas yn y broses rheolaeth o'r Bwrdd Iechyd Prifysgol.
- Datblygu diwylliant o ymlygiad ac ymgysylltiad staff sydd ar agor ac yn dryloyw i ddatblygu a gweithredu strategaeth cyfathrebu fewnol sy'n sensitif ac ymatebol ac yn diogelu'r cymorth o staff a phroffesiynau contractwr o fewn y Bwrdd Iechyd Prifysgol.
- Defnyddio arolygon staff a sgorau ymgysylltu i ddatblygu gwelliannau mewn ymgysylltu staff.
- Ymgysylltu a chydweithio gyda sefydliadau arall, gan gynnwys awdurdodau lleol a sectorau lleol gwirfoddol, statudol a phreifat, er mwyn datblygu cynlluniau datblygu gweithlu strategol sy'n cyfrannu at welliant o'r cymunedau iechyd a lleol.
- Ymgysylltu â darparwyr addysg, i sicrhau bod darpariaeth addysg a hyfforddiant yn cael eu hysbrydoli gan anghenion datblygiadol staff y Bwrdd Iechyd Prifysgol.
- Gweithio gyda Chyfarwyddwr a Gweithredwyr eraill i gynnal a datblygu cysylltiadau Sefydliadau Addysg Uwch.
- Arolygu'r proses o ddarparu addysg is-raddedig yn gysylltiedig â Threfnwyr Is-raddedig a Sefydliadau Addysg Uwch.
Llywodraethu
- Sicrhau safonau uchel o lywodraethu stadd yn cael ei sefydlu a'i weithredu.
- Datblygu trefniadau a chapasiti sefydliadol effeithiol sy’n galluogi’r Bwrdd Iechyd i gyflawni ei nodau strategol o fewn fframwaith o lywodraethu cryf ac effeithiol.
Llysgennad y Bwrdd Iechyd Prifysgol
- Cyfrannu at Strategaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliad GIG Cymru ac i ymgysylltu'n actif yn y gwaith ar lefel cenedlaethol.
- Fel un o’r cnewyllyn o uwch arweinwyr yng Nghymru, cyfrannu at agenda iechyd a sefydliadol ehangach GIG Cymru a Llywodraeth Cymru.
- Bydd y Cyfarwyddwr Strategaeth a Chynllunio yn gweithredu fel llysgennad y Bwrdd Iechyd a GIG Cymru.
Cyfrifoldebau Eraill
Mae’n bosibl y bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyflawni dyletswyddau perthnasol eraill, gan gynnwys yr arweinydd gweithredol ar gyfer gwasanaethau ac ardaloedd penodol, fel sy’n ofynnol gan y Prif Weithredwr.
Arfarnu Perfformiad
- Bydd perfformiad yn cael ei werthuso a bydd amcanion yn cael eu cytuno'n flynyddol gyda Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd.