Executive Brief

Prif Swyddog Gweithredol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

February 2023

Cyflwyniad gan Brif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Annwyl Ymgeisydd

Diolch am eich diddordeb yn rôl Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Dyma rôl hollbwysig a fydd yn gyfrifol am sicrhau cyflenwad a pherfformiad gweithredol system gyfan llwyddiannus, a gwelliant parhaus yr holl wasanaethau a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd.Bydd y rôl yn hyrwyddo ein gwerthoedd, cenhedaeth a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gyda'r bobl a'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Drwy arweinyddiaeth o'r pedwar prif grŵp gwasanaeth, chi fydd yn arwain ar ddatblygu atebion gwasanaeth a sefydliadol arloaesol a ffyrdd o weithio i ategu amcanion strategol y Bwrdd Iechyd, yn enwedig ar draws gofal critigol ac acíwt.

Mae'r rôl yn dod ar gyfnod o newidiadau sylweddol i BIPBA ac ar draws ein cymunedau. Rydym i gyd yn teimlo effeithiau COVID ac mae'r argyfwng costau byw yn cael effaith ar bob teulu, cartref, busnes a gwasanaeth cyhoeddus. Mae gennym raglen weithgar o foderneiddio a gwella ar y gweill o’r enw Newid ar gyfer y Dyfodol, sy’n rhoi’r gwersi a ddysgwyd gennym o Covid ar waith, yn buddsoddi miliynau mewn moderneiddio gwasanaethau a’u siapio i fodloni pwysau heddiw a’r galw yn y dyfodol, gan wella ansawdd gofal a chanlyniadau a chanolbwyntio ar les a gwydnwch staff. Eich rôl chi fydd gwneud yr ymdrech gymhleth hon yn ddiriaethol.

Rwyf yn credu ei bod yn hanfodol bod gennym yr arweinyddiaeth, sgiliau a’r adnoddau proffesiynol i gynnwys pobl yn y gwaith o lunio a deall cynlluniau, gan eu hymgysylltu drwy’r cyfnodau pontio, hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac adrodd yn ôl a chael ein dwyn i gyfrif am ein gweithredoedd. Rydym yn ymrwymedig i'n strategaeth, ein tîm a'n buddsoddiad newydd.

Bydd y person yr wyf yn chwilio amdano yn y rôl hon yn rhywun sydd â phrofiad profedig o weithio ar lefel strategol a chyfrannu ar lefel uchel iawn, yn agos at neu ar lefel Bwrdd mewn sefydliad cymhleth mawr, yn ddelfrydol o fewn y GIG ac ar draws systemau gofal iechyd cyfan. Yr arddull yr wyf yn chwilio amdani fydd un sy'n canmol tîm gweithredol a bwrdd cryf a blaengar ond a all ddod ag egni, brwdfrydedd a chraffter gwleidyddol i rôl gyffrous ynghyd â sgiliau cysyniadol a dadansoddol cryf.

Credwn yn gryf fod ymgysylltu a chyfathrebu ystyrlon yn hanfodol o ran galluogi gofal a chanlyniadau o ansawdd uchel i gleifion a lles staff a boddhad swydd. Os hoffech chi wneud gwahaniaeth, lle gall eich sgiliau ffynnu, a bod eich gwerthoedd a'ch ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus, y GIG a llesiant yn cyd-fynd â'n rhai ni, yna ymgeisiwch, ac edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.

Mark Hackett

Prif Weithredwr

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website. Learn more