Executive Brief

Prif Swyddog Gweithredol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

February 2023

Gwybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Crëwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (PABM yn gynt) ar Ebrill 1, 2019 ar ôl i’r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr drosglwyddo o PABM i Fwrdd Iechyd Prifysgol newydd Cwm Taf Morgannwg.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gwasanaethu poblogaeth o tua 390,000 yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, ac mae ganddo gyllid o tua £1bn. Mae'r Bwrdd iechyd yn cyflogi oddeutu 12,500 o staff.

Mae ganddo dri phrif ysbyty sy'n darparu ystod o wasanaethau:Ysbyty Treforys ac Ysbyty Singleton yn Abertawe, ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Maglan, Port Talbot. Hefyd, mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ysbyty cymunedol a chanolfannau adnoddau gofal sylfaenol sy’n darparu gwasanaethau clinigol y tu allan i’r prif ysbytai.

Mae contractwyr annibynnol gofal sylfaenol yn chwarae rhan hanfodol yng ngofal poblogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac mae’r Bwrdd Iechyd yn comisiynu gwasanaethau gan Feddygon TeuluOptegwyrFferyllwyr Deintyddion  ar draws yr ardal. Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe 49 practis Meddyg Teulu yn ardal ein Bwrdd Iechyd, 72 practis deintyddol gan gynnwys orthodontwyr, 31 practis optometreg a 92 fferyllfa gymunedol.

Mae gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau anableddau dysgu yn cael eu darparu yn yr ysbytai ac mewn lleoliadau cymunedol. Mae Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn Ysbyty Treforys yn cwmpasu de a chanolbarth Cymru, a de-orllewin Lloegr hefyd. Mae Treforys hefyd yn darparu un o ddau wasanaeth llawdriniaeth gardiaidd yng Nghymru. Darperir gwasanaethau iechyd meddwl fforensig i gymuned ehangach sy'n estyn dros de Cymru gyfan.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn rhan o Gydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH), sy’n bartneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe. Mae ARCH yn brosiect cydweithio unigryw gyda’r nod o wella iechyd, cyfoeth a lles de-orllewin Cymru.

Key publications and resources

Annual reports

Values and equality

Equality Reports and Objectives

Most recent Board report 

Executives & Non-Executive Directors 

Quality and Performance

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website. Learn more